Bug Week Invades Oriel Science during May Half-Term, Monday 29th May to Friday 2nd June

Get up close to cockroaches, giant millipedes, stick insects, maggots and more during Oriel Science’s Bug Week from Monday 29th May to Friday 2nd June.  Find out if you’re squeamish, and how Swansea University researchers are studying these fascinating creatures.

Oriel Science (in Princess Way, Swansea, SA1 5HE) , in partnership with Swansea University, will be putting on some exciting half-term hands-on workshops and activities, all of which are free to participate in.

Families and young people will be able to drop into the venue daily from 10am – 4pm from Saturday 27th May to Sunday 4th June where they can take part in a science themed quiz and make pompon pathogens.

Picture1

Exceptionally for the May half term the Oriel Science team will be joined Monday to Friday by a variety of insects, some of which you can hold.  Learn about how these creatures are being studied at Swansea University, and take part in some bug themed games.  Then on Friday 2nd June the “Love a maggot!” stand will invite everyone to learn a little more about the medicinal use of maggots, about their extraordinary little lives, and how they have helped heal wounds and save limbs from amputation.  Everyone will be invited to “feel how maggots feel”!

Picture2

Dr Yamni Nigam, founder of the Swansea University Maggot research group said: “The most common association with maggots is “Eek!”, and this ‘yuck’ factor may be preventing us from benefiting from maggots.  Better education about maggots, what they do and how they work could help people change their minds. The Swansea University  ‘Love a Maggot’ campaign has been set up to encourage people to challenge their existing preconceptions, by getting up close to live maggots and learning just how effective they are for treating chronic, stubborn wounds including pressure (bed) sores, diabetic foot ulcers, leg ulcers caused by vascular disease and even severe burns.”

Picture3

Chris Allton Director of Oriel Science said:

Insects are an extremely common life form but few people know much about them, such as their potential uses in medicine or food sources. It wonderful that Oriel Science will be hosting Swansea University’s insect researchers to enable the public to get up close to all sorts of creepy crawlies and to learn more about these incredible animals.”

The ‘Story of Time’ exhibition at the venue is also set to continue.  Where does the time go? Can time really fly? Is time just an illusion? The Story of Time exhibition answers these questions.

Guarded by the Tardis and a Back to the Future DeLorean car, visitors can meander through, interact with, listen, look, touch and generally play around with exhibits around the theme of Time. Discover how the Higgs boson, was first detected in the mock-up of CERN’s Large Hadron Collider, see a glacial calving in Greenland, tell the time with tree rings, witness the history of the universe displayed on a 30 metre time wall, and hear the sounds of deep space as you watch a time lapse video of the southern stars.

Suitable for all ages, Oriel Science’s mission is to bring the wonders of Science to the public through exhibitions on a scientific theme, which will inspire visitors to think and explore how science and technology impact their daily lives.

 

  • Oriel Science is located in Princess Way, Swansea, SA1 5HE. Between Castle Square and The Kingsway, next to Zinco Lounge.
  • Admission is free and is open Saturdays and Sundays, 10am till 4pm. Available for school visits (during the week) by appointment. Please email: s4science@swansea.ac.uk

 Website: www.orielscience.co.uk Email: orielscience@swansea.ac.uk

@OrielScience: facebook.com/OrielScience


Wythnos Trychfilod yn goresgyn Oriel Science yn ystod Hanner Tymor Mai

Dewch yn agos at gocrotsis, nadroedd miltroed mawr, pryfed brigyn, cynrhon a mwy yn ystod Wythnos Trychfilod Oriel Science o ddydd Llun 29 Mai i ddydd Gwener 2 Mehefin.  Dysgwch a ydych yn medru stumogi’r cyfan, a sut mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe yn astudio’r creaduriaid diddorol iawn hyn.

Bydd Oriel Science (yn Princess Way, Abertawe, SA1 5HE), mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, yn cyflwyno gweithdai a gweithgareddau hanner tymor cyffrous ac ymarferol, pob un am ddim i gymryd rhan ynddynt.

Bydd teuluoedd a phobl ifanc yn gallu taro i mewn i’r lleoliad bob dydd o 10am – 4pm o ddydd Sadwrn 27 Mai i ddydd Sul 4 Mehefin lle gallant gymryd rhan mewn cwis ar thema wyddoniaeth a gwneud pathogenau pompom.

Picture1

Yn arbennig ar gyfer hanner tymor Mai bydd tîm Oriel Science yn cael cwmni amrywiaeth o drychfilod o ddydd Llun i ddydd Gwener, gallwch ddal rhai ohonynt yn eich dwylo.  Dysgwch am sut mae’r creaduriaid hyn yn cael eu hastudio ym Mhrifysgol Abertawe, a chymerwch ran mewn rhai gemau ar thema trychfilod.  Yna ar ddydd Gwener 2 Mehefin bydd y stondin “Carwch gynrhonyn!” yn gwahodd pawb i ddysgu ychydig mwy am ddefnydd meddygol cynrhon, am eu bywydau bach eithriadol, a sut y maen nhw’n helpu i wella clwyfau ac arbed cymalau rhag cael eu torri i ffwrdd. Bydd pawb yn cael eu gwahodd i “weld sut mae cynrhon yn teimlo”!

Picture2

Dywedodd Dr Yamni Nigam, sylfaenydd grŵp ymchwil Cynrhon Prifysgol Abertawe: Y cysylltiad mwyaf cyffredin gyda chynrhon yw “ych!”, a gallai’r ffactor ‘ych-a-fi’ hwn fod yn ein rhwystro rhag cael budd o gynrhon.  Gallai gwell addysg am gynrhon, beth maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw’n gweithio helpu pobl i newid eu meddyliau. Mae ymgyrch ‘Carwch Gynrhonyn’ Prifysgol Abertawe wedi cael ei sefydlu i annog pobl i herio eu rhagdybiaethau presennol, wrth ddynesu at gynrhon byw a dysgu’n union pa mor effeithiol y maen nhw i drin clwyfau cronig, styfnig gan gynnwys briwiau pwysedd (gwely), wlserau troed clefyd siwgr, wlserau coes wedi’u hachosi gan afiechyd fasgiwlaidd a hyd yn oed llosgiadau difrifol.”

Picture3

Dywedodd Chris Allton Cyfarwyddwr Oriel Science:

“Mae trychfilod yn ffurf bywyd eithriadol o gyffredin ond ychydig o bobl sy’n gwybod llawer amdanynt, fel eu defnyddiau posibl mewn meddyginiaeth neu ffynonellau bwyd. Mae’n wych y bydd Oriel Science yn rhoi cartref i ymchwilwyr trychfilod Prifysgol Abertawe i alluogi’r cyhoedd i ddod yn agos at bob math o drychfilod ac i ddysgu mwy am yr anifeiliaid anhygoel hyn.”

Mae arddangosfa ‘Stori Amser’ hefyd yn parhau yn y lleoliad.  Ble mae’r amser yn mynd? Ydy amser wir yn gallu hedfan? Ai rhith yn unig yw amser? Mae arddangosfa Stori Amser yn ateb y cwestiynau hyn.

Wedi eu gwarchod gan y Tardis a char DeLorean Back to the Future, gall ymwelwyr grwydro trwy, rhyngweithio gyda, gwrando, edrych, cyffwrdd a chwarae o gwmpas yn gyffredinol gydag arddangosion ar thema Amser. Darganfyddwch sut gafodd y boson Higgs, ei ganfod gyntaf yn y model o Wrthdrawiadwr Mawr Hadron CERN, edrychwch ar hollti rhewlifol yn yr Ynys Las, dywedwch yr amser gyda chylchoedd coed, byddwch yn dyst i hanes y bydysawd wedi ei arddangos ar wal amser 30 metr, a gwrandewch ar synau gofod dwfn wrth i chi wylio fideo treigl amser o’r sêr deheuol.

Yn addas i bob oed, cenhadaeth Oriel Science yw dod â rhyfeddodau Gwyddoniaeth i’r cyhoedd trwy arddangosfeydd ar thema wyddonol, a fydd yn ysbrydoli ymwelwyr i feddwl ac archwilio sut mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn cael effaith ar eu bywydau dyddiol.

  • Mae Oriel Science wedi ei leoli yn Princess Way, Abertawe, SA1 5HE. Rhwng Castle Square a’r Kingsway, drws nesaf i Zinco Lounge.
  • Mynediad am ddim ac yn agored dyddiau Sadwrn a Sul, 10am hyd 4pm. Ar gael i ymweliadau ysgolion (yn ystod yr wythnos) trwy drefniant. E-bostiwch: s4science@swansea.ac.uk

 Gwefan: www.orielscience.co.uk E-bost: orielscience@swansea.ac.uk

@OrielScience: facebook.com/OrielScience

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.