I fyfyrwyr newydd – llongyfarchiadau a chroeso i Brifysgol Abertawe a’n cymuned Gymraeg! Hefyd, i hen fyfyrwyr – croeso nôl! Barod am flwyddyn braf arall? Dyma erthygl i gyflwyno chi i gymuned Gymraeg Prifysgol Abertawe a beth allwch ddisgwyl yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
Beth yw fy rôl i?
Fi yw Swyddog yr Iaith Gymraeg yn Undeb y Myfyrwyr. Byddaf yn cynrychioli chi fel cymuned Gymraeg y Brifysgol drwy ymddwyn fel eich cysylltiad efo Undeb y Myfyrwyr a‘ch llais tu fewn iddo. Bydd modd ichi ddod ataf efo unrhyw anawsterau, cwestiynau neu awgrymiadau hoffwch godi o ran eich profiad prifysgol. Yn ogystal â hyn, byddaf yn sicrhau bod bywyd fel myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Abertawe llawn hwyl, cyfleoedd a theimladau gymunedol! I ddarllen ymhellach am beth rwyf am gyflawni yn ystod y flwyddyn academaidd yma, gallwch ddarllen fy maniffesto ar wefan yr Undeb. Yr her fwyaf sydd gen i fel Swyddog yr Iaith Gymraeg y flwyddyn yma, yw cynnal yr Eisteddfod Ryng-golegol ar ddechrau mis Mawrth 2019. Cynhelir y digwyddiad yma yn flynyddol i ddod â myfyrwyr brifysgolion Cymraeg at ei gilydd i ddathlu ein diwylliant. Bydd mwy o wybodaeth ar gael am y digwyddiad yma yn y dyfodol agos!
Y GymGym
Yn fy marn i, y ffordd orau i ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr Cymraeg o fewn y Brifysgol yw trwy ymuno â’r Gymdeithas Gymraeg. Mae’r GymGym yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg ac i ddod yn rhan o gymuned Gymraeg clos y Brifysgol. Mae’r GymGym yn cynnal nifer o sosials trwy gydol y flwyddyn megis crôls efo themâu amrywiol, gigs yn Nhy Tawe, nosweithiau cwis, a’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd a llwyddiannus – Trip Chwe Gwlad a’r Eisteddfod Ryng-golegol! Roedd y GymGym yn hanfodol i mi i ddod i adnabod Cymry Cymraeg eraill ac yn sicr wedi rhoi imi rai o’r atgofion gorau fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe. Gallwch ymaelodi efo’r GymGym yn ystod Wythnos y Glas – cadwch lygad mas am eu stondin!
Rwyf yn edrych ymlaen at groesawi hen fyfyrwyr a myfyrwyr newydd i Abertawe ym mis Medi ac i ehangu ar ein cymuned Gymraeg o fewn y Brifysgol. Wnâi gweld ti’n fuan, a mwynhewch Wythnos y Glas!
Gan Rebecca Martin