Fel rhan o draddodiad Cymreig fe greuwyd y wisg draddodiadol nôl yn y 19eg ganrif. Fe ddaeth y ddelwedd yn boblogaidd yn gyntaf yn Sir Aberteifi, bryd hynny, ond erbyn heddiw mae’n boblogaidd ar draws y wlad. Mae’r wisg yn cynnwys:

  • Bratiau- sydd wedi gwneud allan o frethyn fetel, sef cymysgedd o sidan, gwlân a chotwm
  • Het ‘pot llaeth’
  • Sgert lawn- gwneud o frethyn patrwm siec
  • Ffedog wen
  • Blows wen gyda siôl goch

Dywedir mai gwisg wledig oedd; gwisg sydd yn seilio ar ddillad roedd gwragedd cefn gwlad yn eu gwisgo. Cafodd Augusta Hall, gwraig fferm yn y 19eg ganrif, dylanwad enfawr ar ba mor boblogaidd daeth y wisg. Roedd hi yn annog pobl i’w wisgo gan gael ei gydnabod fel gwisg draddodiadol yng Nghymru.

Delwedd boblogaidd o’r wisg yw darlun ‘Salem’ gan yr arlunydd Vosper. Mae’n ddarlun sy’n dangos hen wraig fferm yn gwisgo’r wisg yng Nghapel Salem. Drwy edrych yn fanwl i mewn i’r llun gellir gweld wyneb diafol ym mhatrymau plygiad y siôl; erbyn heddiw mae pobl dal yn holi a oedd hyn yn fwriadol gan Vasper?

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, mae’n draddodiad i ferched wisgo’r wisg Gymreig ar y diwrnod hwn gan binio daffodil ar y siôl.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.