Ar y 25ain o Ionawr bob blwyddyn mae’n ddiwrnod Santes Dwynwen, ond pwy yw
Dwynwen a pam ei bod yn ddiwrnod cenedlaethol Cymreig? Nawddsant cariadon oedd Dwynwen merch i Brychan Brycheiniog. Roedd gan Brychan Brycheiniog 24 merch a dywed mai Dwynwen oedd y pertaf. Mi wnaeth Dwynwen gwympo mewn cariad gyda Thywysog Maelon Dafodrill, ond nid oedd ei thad yn hapus o hyn gan iddo eisiau iddi briodi rhywun arall. Roedd Dwynwen yn drist o hyn ac fe wnaeth hi ofyn i Dduw i wneud iddi anghofio am Dywysog Maelon.
Un noson pan roedd Dwynwen yn cysgu, ymwelodd angel â hi gan roi tri dymuniad iddi:
- Maelon i gael ei wareiddio
- Bod Duw yn cwrdd â gobeithio a breuddwydion gwir gariadon
- Ni ddylai hi byth briodi
Fe ddaeth y 3 dymuniad yma yn wir ac fel diolch fe wnaeth hi ymroi i wasanaeth Duw am weddill ei bywyd drwy droi yn Lleian. Wedi marwolaeth Dwynwen yn 465AD cafodd ffynnon ei enwi ar ôl Dwynwen ar Ynys Llanddwyn. Felly dyna pam ru’n ni’n dathlu diwrnod Santes Dwynwen i gofio amdani a’r aberthiad gwnaeth am gariad.