Dydd Gŵyl Dewi

Mae’r ffordd rydyn ni’n meddwl am ddigwyddiadau allweddol yng nghalendr cymdeithasol Cymru yn newid. Wrth gwrs, mae newid yn normal, ond mae’r newid yng Nghymru yn ymddangos yn gyflymach nag mewn mannau eraill. Yn yr 20 mlynedd diwethaf, ymddengys bod nifer y digwyddiadau blynyddol sy’n benodol i Gymru a’i diwylliant wedi cynyddu’n esbonyddol, ac mae’r ffordd yr ydym yn dathlu’r digwyddiadau hyn wedi bod yn newid hefyd. Mae diwrnod Santes Dwynwen (a elwir yn aml yn ddydd Sant Ffolant Cymru) ar y 25ain o Ionawr, yn wyliau sydd wedi cael ei ddathlu yng Nghymru ar ryw ffurf ers canrifoedd, er ei fod yn rhywbeth y byddai’r mwyafrif o Gymry wedi bod yn anwybodus amdano tan yn ddiweddar. Yn y cyfnod yn arwain at ddiwrnod Santes Dwynwen, gwelwn gardiau’n ymddangos mewn archfarchnadoedd a digwyddiadau mewn tafarndai, bwytai a chanolfannau cymunedol o Aberbeeg i Abersoch. Mae’r newid yn y dathliadau o’r ŵyl gynyddol boblogaidd hon wedi’i adlewyrchu mewn mannau eraill, ac mae digwyddiadau o Ddiwrnod Llywelyn ein llyw olaf i Ddiwrnod Cerddoriaeth Cymru wedi tyfu mewn gwelededd a phoblogrwydd. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddigwyddiad wedi gweld twf mewn statws yn fwy na’n gwyliau cenedlaethol ar Fawrth y cyntaf, Dydd Gŵyl Dewi.

 

Bydd unrhyw un sydd wedi cael ei fagu yng Nghymru – gan gynnwys fi – yn gallu rhoi disgrifiad manwl i ti o’r hyn y byddai’r dathliadau ar Ddydd Gŵyl Dewi yn ei olygu tra yn yr ysgol. I mi, a miliynau o Gymry eraill, roedd yn golygu atodi cennin pedr neu lysieuyn trwm wedi’i lapio â ffoil â’ch gwasgod, teithio i’r ysgol yn y glaw trwm neu, weithiau, eira ac eistedd ar lawr pren caled am fore o emynau Methodistaidd mewn sesiwn draddodiadol o ganu o’r enw cymanfa ganu a barddoniaeth ddrwg mewn Eisteddfod ysgol fach. Gallai fod yn hwyl ar brydiau, ond roedd yn ymddangos yn debycach i newydd-deb na gŵyl o arwyddocâd cenedlaethol.

 

Ers fy nyddiau o eistedd ar y llawr yn Ysgol Gynradd Cwm-rhyd-y-ceirw yn Abertawe, mae’n ymddangos bod Dydd Gŵyl Dewi wedi dechrau mentro tu hwnt i’r ystafell ddosbarth a neuadd y capel, ac i strydoedd ein cymunedau, ac felly, naratif amlwg sy’n amgylchynu ein hunaniaeth genedlaethol. Ar 1af Mawrth 2018, am y tro cyntaf yn fy mywyd, treuliais i Ddydd Gŵyl Dewi y tu allan i fy mamwlad, ar daith y chweched dosbarth i Efrog Newydd. Roedd hi ychydig yn anghyfforddus i mi, methu â chymryd rhan yn y dathliadau, ond er mawr syndod i mi, roedd baner Cymru yn hedfan y tu allan i’r NYSE enwog; traddodiad newydd i Efrog Newydd. Ar ôl sylwi ar hynny, sylwais fod tywysydd ein taith, Shirley, yn gwisgo cennin pedr. Pan ofynnais iddi am y peth, dywedodd ei bod yn Gymro-Americanaidd balch gyda gwreiddiau yn Nhorfaen, gan dynnu sylw at dwf yng ngwelededd ein gwlad a’i gwyliau cenedlaethol dramor. Os byddai unrhyw beth yn helpu Americanwyr i ddarganfod mwy am ddiwylliant a thraddodiadau Cymru, byddai gweld grŵp o ddeugain o fyfyrwyr Coleg Gŵyr yn canu Calon Lan wrth gerdded ar hyd 5th Avenue ar Ddydd Gŵyl Dewi yn sicr o wneud hynny.

 

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar 1af Mawrth 2020, cefais fy synnu hyd yn oed yn fwy pan welais stondinau yn ymddangos yng nghanol tref Abertawe fel rhan o ffair Ddydd Gŵyl Dewi. Hyd yn oed yn Abertawe – y dref fwyaf Seisnigedig o Gymru – mae parch cynyddol at ein traddodiadau a’n diwylliant brodorol, digon i fi a fy ffrindiau eistedd mewn pabell ar Stryd yr Undeb (eironig?) a gwylio arddangosiad ar sut i wneud bara brith perffaith a gynhelir gan gystadleuydd GBBO o Orllewin Cymru, Michelle Evans-Fecci. Roedd y samplau bara brith – mor flasus ag oeddent – dim ond yn esiampl fach o’r adfywiad Cymraeg. Ledled y wlad, roedd llawer o wahanol ffyrdd o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi i’w gweld, o orymdeithiau yn Aberystwyth a Chaerdydd, i sesiynau dawnsio gwerin, i wersi Cymraeg ar y radio, sesiynau barddoniaeth, a pherfformiadau o’n hofferyn cenedlaethol, y Delyn.

Os wyt ti, fel fi, yn Gymro ifanc sydd ag ymdeimlad cynyddol o wladgarwch, efallai dy fod ar golled am i bethau wneud ar Ddydd Gŵyl Dewi ond gallaf sicrhau fydd llwyth o weithgareddau diogel ar gael. Gyda phadell ffrio, llaw ysgafn a rhywfaint o amynedd, gallet ti roi cynnig ar bobi Picau ar y maen neu fe allet ti hyd yn oed ddysgu rhai caneuon Cymraeg traddodiadol a chynnal canu cymanfa dy hun. Os nad yw hynny at dy ddant, fe allet ti ymuno â’r miliynau sy’n dysgu Cymraeg ar Duolingo, neu hyd yn oed cofrestru ar gyfer cwrs Cymraeg gyda gwefan y Llywodraeth, learnwelsh.cymru.

 

Translated by Katie Phillips 

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.